Swyddogion Cerdd

Cyfarwyddwr Cerdd Ieuan Jones BMus (Hons)

Daw Ieuan o sir Fôn cyn symud i Gaerdydd i astudio cerdd ym Mhrifysgol Caerdydd lle’r enillodd radd gydag anrhydedd. Tra’n fyfyriwr daeth yn organydd Eglwys Gymraeg Dewi Sant, ac ef bellach yw’r cyfarwyddwr cerdd a chôrfeistr yno. Ef hefyd yw arweinydd Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd. Mae Ieuan yn o gystal yn gyfeilydd prysur i nifer o unawdwyr a chorau gan gynnwys Côr Ysgol Heol-y-March a Chôr Orffiws Treforys. Profodd gryn dipyn o lwyddiant mewn cystladleuthau ac eisteddfodau, yn eu plith Côr Plant y Byd yn Llangollen ac ennill Côr Cymru ar S4C. Bu’n teithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan gyfeilio yn Neuadd Albert yn Llundain, Neuadd Symffoni yn Birmingham, ac yn Rhif Deg Downing Street. Bu ar daith hefyd yn Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Sbaen, yr Eidal, Gwad Pwyl, Asia, Canada, a Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Mae’n cyfarwyddwr cerdd y Llewod Prydeinig a Gwyddelig a bu ar daith gyda nhw yn Seland Newydd yn 2017, a mae’n edrych ymlaen at eu harwain eto yn Ne Affrica yn 2021. Mae ei ddiddordebau cerdd yn ymestyn mor bell â chwarae’r ukulele a diddannu’r lliaws gyda’i allu fel iodlwr.

Cyfeilydd Gavin Parry

Gavin

Cafodd Gavin Parry ei addysgu yn ysgol uwchradd Caerdydd, a graddio mewn ffiseg o Brifysol Bryste. Bu’n bianydd disglair yn ei arddegau a bu’n llwyddiannus yn arholiad yr LRAM pan oedd yn yr ysgol. Ar ol gadael y brifysgol aeth ymlaen i astudio’r piano ymhellach yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ers ymddeol o’i swydd ym maes iechyd yn y Cynulliad Cenedlaethol mae ganddo fwy o amser i ymroi at fod yn gerddor proffesiynol, a mae wedi cyfeilio i gorau ac artistiaid ledled Prydain ac hefyd yn Rwsia, yr Unol Daleithiau droeon, Hwngari,. Awstralia a Chanada sawl gwaith. Bu hefyd yn gyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe’i penodwyd yn gyfeilydd Pendyrus yn 1973 as estynwyd iddo aelodaeth oes o’r côr yn 1994.
Andanom Ni
Choristers
Management Team
Former Musical Directors

Former Accompanists