Croeso i Bendyrus
Mae’n hen ystrydeb bod Cymru yn ‘Wlad y Gân.’ Ond mae mwy na chnewyllyn o wirionedd iddi, a’r ffaith yw bod corau meibion wedi ffynnu yng Nghymru ers y 1880au, yn arbennig yng nghymoedd glofaol y de ac ardaloedd chwareli’r gogledd orllewin. Ers dros 90 mlynedd mae Pendyryus ymhlith y mwyaf blaenllaw o’r corau hyn.
Mae Côr Meibion Pendyrus yn perfformio trwv wledydd Prydain a thramor. Mae’n derbyn cyhoeddiadau i ganu am ffî ond hefyd yn cynnal cyngherddau ar gyfer achosion elusennol. Mae’n derbyn gwahoddiadau i ganu mewn cyngherddau, ar achlysuron cenedlaethol, ac er mwyn darparu adloniant corfforaethol mewn ciniawau a.y.b.
Mae’r Côr yn aelod o Gymdeithas Cerdd Cymru, ac o Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru sydd yn chynnig cymorth ariannol iddo. Mae hefyd yn derbyn cymorthdal Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntaf, a Menter Iaith.